Brick to the Past
  • Home
  • Portfolio
    • Tigelfah Castle
    • London 1875
    • The Wall
    • England 793
    • Hastings 1066
    • Caithness Broch
    • Jacobite Risings
    • Henry Morgan
    • The Peterloo Massacre
    • Mosaics
    • Board Games
    • What's next? Have your say
  • Commercial
  • Blog to the Past
  • About
  • Contact

Harri Morgan: Herwr Cymraeg Gwladfeydd Sbaen

Crëwyd y model yma yn 2018 i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr yng Nghymru pan oedd y wlad yn dathlu ei harfordir rhagorol ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig newydd o amgylch ei glannau. Dydyn ni ddim yn ddieithr i'r gair ' epig ' ac felly fe benderfynon ni ymuno yn y dathliadau trwy chwilota mwen i hanes morwrol Cymru ac archwilio byd muriog ei môr-herwr mwyaf enwog,  Llyngesydd Syr Harri Morgan.  Yr adeiladwyr ar y prosiect hwn oedd James Pegrum, Dan Harris, Simon Pickard a Colin Parry.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg hefyd.
Picture
Pwy oedd Harri Morgan?
Ganwyd Harri Morgan yn 1635 ger Llanrhymny, sydd bellach yn rhan o Gaerdydd. Mae’n ansicr sut y daeth i Jamaica ugain mlynedd yn ddiweddarach, ond yn ei amser yna wnaeth creu gyrfa fel anturiwr mwyaf llwyddiannus fydd y byd erioed eu weld. Mewn cyflog llywodraeth Teryrnas Lloegr, wnaeth ymosod gwladfeydd a llongau Ymerodraeth Sbaen, ac yn creu cyfoeth personol enfawr yn y broses. Adref, yr oedd yn arwr, yn cael ei penodi fel marchog yn 1674 ac yn dal y swydd Dirprwy Lywodraethwr Jamaica ar sawl achlysur. I Sbaen, roedd o dim mwy na môr-leidr, eu gweithgaredd yn eistedd ymhell y tu allan i'r gyfraith. Bu farw ar 25 Awst 1688, wedi chwarae rhan fawr yn osod yr olygfa geo-wleidyddol Americanaidd datblygiedig.
Picture
Beth yw môr-herwr?

Roedd môr-herwyr yn fath o môr-leidr, neu forwr rydd a hwyliodd Fôr y Caribî yn ystod y 17eg a 18fed ganrif.

Fel rheol hwyliodd môr-herwyr dan warchodaeth llythyr o 'Marque' a roddwyd gan llywodraeth Prydeinig, Ffrengig neu Iseldiraidd. Golygai hyn fod yr hyn yr oeddynt yn ei wneud yn cyfreithiol, er eu bod yn aml yn gwthio eu terfynau ac yn gymryd unrhyw fantais a bob cyfle i ysbeilio targedau Sbaenaidd. Er enghraifft, pan ymosododd Harri Morgan Dinas Panama yn 1671, nid oedd yn cael ei awdurdodi o gwbl gan Lywodraeth Lloegr. Fel arfer, wnaeth y llywodraethoedd a gyhoeddwyd y llythyron 'Marque' dweis i anwybyddu y gweithgareddau anawdurdodedig hyn. Wedi'r cyfan, yr a oedd eu hunain yn cymryd toriad o'r trysor ac yn gweld y môr-herwyr fel amddiffynfa bwysig yn erbyn yr Ymerodraeth Sbaen.

Nid oedd y Sbaenwyr wrth gwrs yn adnabod cyfreithlondeb llythyrau 'Marque' a byddai'n arteithio a hongian unrhyw môr-herwr a gipiwyd ganddynt.
Picture
Picture
Ymosodiad ar Llyn Maracaibo

Mae model ni wedi ei seilio ar ymosodiad Morgan ar Llyn Maracaibo, sydd yn Feneswela heddiw, yn 1669.

Agorodd y ymosodiad gyda'r chipio o Gaer San Carlos De La Barra, a oedd yn gwarchod y fynedfa i'r llyn. Nid oedd llawer o obaith i'r garsiwn bach y gaer i amddiffyn yn erbyn y môr-herwyr, pwy oedd yn mwy niferys ac yn mwy arfog, ac ni fu'r brwydr para'n hir. Mae ein caer wedi ei seilio ar ddyluniad Caer San Carlos De La Barra, ond mae wedi ei grebachu i sicrhau nad yw'n ymddangos yn rhy fawr o'i gymharu â gweddill y model; fe'i crewyd gan Dan Harris.

Penderfynodd y môr-herwyr adael y gaer di-griw a felli torrodd nhw y canonau i'w hatal rhag cael eu defnyddio yn eu herbyn wrth i nhw dianc. Aethant ymlaen i ymosod ar Dinas Maracaibo, ond gan ganfod ychydig iawn o drysor yno, hwyliodd ar draws y Llyn i Gibraltar lle buont yn ymladd eu ffordd i mewn i'r dref.

Adeiladwyd ein tref gan James Pegrum a Colin Parry. Astudion nhw elfennau o bensaernïaeth Sbaenaidd a chynllunio tref drefedigaethol i ddyfeisio'u dyluniad.
Picture
Picture
Tra'r oedd y môr-herwyr yn brysur yn hysbeilio, wnath fflyd Sbaenaidd o dair llong fawr cyrraedd, a rwystro'r fordd allan i'r môr agored. I wneud pethau'n waeth, wnaeth y Sbaenwyr ail-gipio Caer San Carlos De La Barra - roedd y môr-herwyr wedi'u dal!

Ceisiodd Morgan drafod ei ffordd allan - ond yr oedd y Sbaenwyr dan orchmynion i dod a môr-ladrad i'r diwedd; yr oedd frwydr yn anochel! Gan fod llawer mwy of Sbaenwyr gan  y Sbaenwyr, bu'n rhaid i Morgan ddefnyddio cyfrwys i gyrraedd diogelwch. Am hyn fe gymerodd long a gipiwyd a'i droi'n llong dân, gan cuddio boncyffion fertigol  gyda dillad a hetiau i dwyllo'r Sbaenwr i feddwl fod ganddo criw llawn. Adeiladwyd ein llongau gan James Pegrum a Simon Pickard.
Picture
Picture
Ar Mai'r gyntaf 1669 ymosododd llynges Morgan y fflyd Sbaenaidd. Gweithiodd y llong dân, gan ddinistrio'r llong Sbaenaidd mwyaf. Wwrth i'r ail fwyaf or llongau ceisio symud i ffwrdd o'r llong yr oedd ar tân, ond roedd problem gyda'r rigio, a felli wnaeth e drifftio i ffwrth heb nod. Llwyddodd y môr-herwyr cipio'r llong a'i hawlio fel ei hun. Suddwyd y trydydd llong Sbaenaidd hefyd, gan adael dim ond y Caer i'w goresgyn.
Picture
Picture
baUnwaith eto, ceisiodd Morgan drafod, ac yn bygwth diswyddo a llosgi Maracaibo pe na chaniateid iddo basio. Gwrthododd y Sbaenwyr yn y caer.

Nid oedd gan Morgan fawr o flas am frwydr arall; roedd yn debygol byddai'n yn gostus i ymladd unwaith eto a roeth o wedi clywed  fod mwy o longau Sbaenaidd ar eu ffordd. Fodd bynnag, sylwodd fod y Sbaenwyr wedi gosod eu canoniaid ar gyfer ymosodiad or tir gan, mai dyma sut y cafodd y caer ei chipio yn y lle cyntaf.

I dricio y Sbaenwyr i gredu bod ymosodiad o'r tir yn mynd i digwydd, wnaeth Morgan gael ei môr-herwyr trosglwyddo i'r briftir of fewn glowg y caer ond yn glanio ychydig tu allan o golwg. I'r Sbaenwyr, roedd yn edrych fel bod llu mawr yn casglu ychydig y tu hwnt i'w muriau, ond yr hyn oedd yn digwydd mewn gwirionedd oedd bod y môr-herwyr yn dychwelyd yn syth yn ôl i'w llongau, wedi eu cuddio y tu ôl o'u canŵs.  mewn gwirionedd doedd yna ddim môr-herwyr ar dir o gwbl!

Yn ystod y nos, wrth i'r Sbaenwyr edrych allan ar y jyngl y tu hwnt iddynt, wnaeth llynges fach Morgan chodi eu angor ac arnofio allon o'r llyn y llanw heb godi eu hwyliau ac heb unrhyw un gweld. Pan oeddent allan o amrediad y caer, codwyd y hwyliau a hwyliodd y môr-herwyr i ffwrdd.  Cymerasant tua 250,000 o besos, swm enfawr o nwyddau a nifer o gwystlon gyda nhw; wobr enfawr ar y pryd!
Picture
Picture
Picture
Fel y rhan fwyaf o'n modelau mawr, wnaeth Harri Morgan: Herwr Cymraeg Gwladfeydd Sbaenbod bodloni fel model cyfan yn ystod flwyddyn o'i greu yn unig.  Fodd bynnag, mae elfennau ohono, megis y llongau trawiadol, yn dal i fodoli ac maent ar gael o hyd i'w rhentu. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Brick to the Past yn defnyddio brics LEGO gyda balchder i adeiladu ein harddangosfeydd, ond nid ydym yn cael ein cymeradwyo, ein hawdurdodi na’n gysylltiedig â Grŵp LEGO mewn unrhyw ffordd.
Mae LEGO yn nod masnach Grŵp cwmnïau LEGO. Mae'r deunydd ar y wefan hon yn hawlfraint Brick to the Past.

Powered by Create your own unique website with customizable templates.
  • Home
  • Portfolio
    • Tigelfah Castle
    • London 1875
    • The Wall
    • England 793
    • Hastings 1066
    • Caithness Broch
    • Jacobite Risings
    • Henry Morgan
    • The Peterloo Massacre
    • Mosaics
    • Board Games
    • What's next? Have your say
  • Commercial
  • Blog to the Past
  • About
  • Contact